SL(6)367 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023

Cefndir a diben

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg ("safonau"). Mae'r safonau hyn yn disodli'r cynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae adran 26 o Fesur 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff”).  Penodir ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth o dan adran 6 neu drwy amrywio penodiad o dan adran 7 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.

Oherwydd bod y cyrff y mae’r safonau hyn yn ymwneud â hwy o fewn Atodlen 8 i Fesur 2011, mae adran 37 o Fesur 2011 yn darparu mai dim ond safonau cyflenwi gwasanaethau a safonau cadw cofnodion y gellir eu gwneud yn benodol gymwys iddynt.  Nid yw safon cyflenwi gwasanaethau yn gymwys ond i’r graddau ei bod yn ymwneud â darparu gan y corff wasanaeth a bennir yng ngholofn 2 o gofnod y corff yn Atodlen 8 i Fesur 2011. Yn achos yr ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth sy’n dod o fewn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn, mae’r gwasanaethau penodedig yn wasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth (fel y bo’n briodol) ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

Mae’r Rheoliadau hyn yn defnyddio’r wyddor Gymraeg. Mae hyn yn effeithio ar baragraffau 26(3), 26(4), 33 o Atodlen 1.  Mae’r arddull hon yn wahanol i’r arddull rifo arferol a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru.  Mabwysiadwyd yr un arddull yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 a’r Rheoliadau dilynol sy’n pennu safonau’r Gymraeg.

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023.  Os cânt eu pasio gan y Senedd, y rhain fydd wythfed Rheoliadau Safonau’r Gymraeg i’w gwneud. Fel arfer mae rhif yn enw un o gyfres o Offerynnau Statudol yn cyfeirio at y nifer a wnaed yn y flwyddyn benodol, fodd bynnag y bwriad yw y bydd yr holl Reoliadau a wneir o dan adran 26 o Fesur 2011 yn cael eu gwneud mewn cyfres, yn yr un modd â gorchmynion cychwyn.

 

Gweithdrefn

Cadarnhaol Drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “corff” yw person sy'n dod o fewn un neu'r ddau o'r categorïau o bersonau a restrir yn Atodlen 4. Mae Atodlen 4 yn rhestru personau sy’n darparu gwasanaethau dŵr neu garthffosiaeth i’r cyhoedd ac sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 neu yn rhinwedd amrywio penodiad o’r fath o dan adran 7 o’r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni. Ni all aelod o’r cyhoedd sy’n darllen y Rheoliadau hyn adnabod yn hawdd y cyrff sy’n dod o fewn Atodlen 4. Er y cydnabyddir bod Atodlen 4 yn ailadrodd geiriad Mesur 2011 ac y gall y cyrff sy’n dod o fewn Atodlen 4 newid, byddai’n caniatáu ar gyfer mwy o hygyrchedd pe bai’r cyrff sy’n dod o fewn Atodlen 4 ar hyn o bryd yn cael eu rhestru yn ôl enw, naill ai yn y Rheoliadau eu hunain neu yn y Memorandwm Esboniadol.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Cynhaliodd Gweinidogion Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau hyn rhwng 15 Chwefror 2023 a 5 Ebrill 2023. Nodir yn y ddogfen 'Ymgynghoriad - crynodeb o'r ymateb' a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023, gan mai hwn oedd yr ail ymgynghoriad ar safonau drafft ar gyfer ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth, fod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori am gyfnod byrrach na'r arfer o 7 wythnos.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:

Gwnaed y penderfyniad i beidio â rhestru’r cwmnïau presennol sy’n dod o fewn Atodlen 4 i’r Rheoliadau yn ôl eu henwau er mwyn sicrhau hirhoedledd y Rheoliadau. Gallai rhestru cwmnïau yn ôl eu henwau fod wedi ei gwneud yn ofynnol i Reoliadau diwygio gael eu gwneud a/neu achosi amwysedd pe bai ymgymerwr dŵr a/neu ymgymerwr carthffosiaeth newydd yn dechrau darparu gwasanaethau; pe bai cwmni a enwid yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru; pe bai cwmni yn mabwysiadu enw newydd, neu pe bai cwmni’n uno â chwmni arall.

 

Yn ogystal, dim ond pan fydd rhaid i gorff gydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio a roddir gan Gomisiynydd y Gymraeg y bydd unrhyw ddyletswyddau neu hawliau yn codi. Bryd hynny, byddai Comisiynydd y Gymraeg yn rhoi gwybod i’r cyhoedd pa gyrff sy’n gorfod cydymffurfio â’r safonau. Er nad yw Llywodraeth Cymru yn derbyn bod y Rheoliadau Drafft yn achosi unrhyw broblem o ran hygyrchedd y gyfraith, mae’r Memorandwm Esboniadol wedi cael ei ddiwygio er mwyn cynnwys rhestr o’r holl gyrff a gwmpesir ar hyn o bryd gan y diffiniad yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

20 Gorffennaf 2023